Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Dyddiad: 8 Tachwedd 2017
Amser: 09.00 -09.30
Teitl: Papur Tystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft 2018-19 - Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg
Cyflwyniad
1. Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gynigion y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Addysg a amlinellir yng Nghyllideb Ddrafft 2018-19, a gyhoeddwyd fel rhan o broses dau gam; cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol (cam 1) ar 3 Hydref ac yna cyllideb ddrafft fanwl (cam 2) ar 24 Hydref. Mae’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar feysydd o ddiddordeb perthnasol i’r Pwyllgor gan gynnwys y Gymraeg, y Celfyddydau ac Addysg Gerddoriaeth.
Cefndir
2. Mae’r gyllideb hon yn cynnwys cynlluniau gwariant ar gyfer 2018-19, ynghyd â chyllidebau refeniw dangosol ar gyfer 2019-20 a chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21. Dyma ail gyllideb tymor y Llywodraeth hon, a thrydedd flwyddyn setliad presennol Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU.
3. Cyni yw un o brif nodweddion gwariant cyhoeddus o hyd. Mae’r cyfnod hir hwn o ostyngiadau parhaus wedi cael effaith ar ein holl wasanaethau, hyd yn oed y rhai lle rydym wedi gallu eu diogelu rhywfaint. Mae’n golygu ein bod fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i wynebau dewisiadau anodd.
4. Mae dadansoddiad o’r dystiolaeth ynghylch tueddiadau ac amcanestyniadau cyfredol wedi ein helpu i ganolbwyntio ar y meysydd mwyaf allweddol o ran diwallu anghenion poblogaeth Cymru, ac mae wedi llywio’r cynigion gwariant hyn.
5. Ym mis Medi, cyhoeddwyd ein strategaeth genedlaethol sydd â’r nod o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn ymdrechu ar y cyd i wireddu cenhadaeth ganolog y Llywodraeth o sicrhau Ffyniant i Bawb. Mae’n rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r nodau cenedlaethol wrth wraidd ein proses o wneud penderfyniadau. Mae’r deuddeg o amcanion llesiant yn cynrychioli’r meysydd lle y gall Llywodraeth Cymru wneud y cyfraniad mwyaf tuag at y nodau cenedlaethol, gan weithio mewn partneriaeth gydag eraill. Defnyddiwyd y Ddeddf wrth baratoi cynlluniau gwario, ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyfuno gweithgareddau ar draws fy mhortffolio a chysoni adnoddau â’r strategaeth genedlaethol.
Ymateb
6. Darperir y wybodaeth ganlynol yn y drefn y gofynnwyd amdani yn y llythyr comisiynu dyddiedig 1 Medi 2017 o dan y penawdau canlynol:
· Rhan 1: Sylwebaeth ar Gamau Gweithredu a manylion dyraniadau’r Llinell Gwariant yn y Gyllideb (BEL)
· Rhan 2: Gwybodaeth Arall
· Rhan 3: Meysydd Penodol
Rhan 1: Sylwadau ar Gamau Gweithredu a manylion dyraniadau’r Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL)
7. Mae’r tabl isod yn rhoi trosolwg o’r camau gweithredu a gynlluniwyd/llinell wariant yn y gyllideb (BEL) mewn perthynas â’r Gymraeg, y Celfyddydau ac Addysg Gerddoriaeth fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2018-19.
Tabl 1.1 Dyraniadau BEL
MAES RHAGLEN WARIANT (SPA) |
CAM GWEITHREDU |
BEL |
Dyraniad Cyllideb Ddrafft
2018-19 |
Cyllideb Ddrafft Ddangosol
2019-20 |
|
Safonau Addysg a Hyfforddiant |
Cwricwlwm |
Cwricwlwm ac Asesu (BEL 5162) |
6,566 |
6,282 |
|
Safonau Addysg |
Codi Safonau Ysgolion (BEL 5511) |
25,000 |
25,500 |
||
Grant Gwella Ysgolion BEL (5126) |
121,659 |
110,566 |
|||
Y Gymraeg |
Cymraeg mewn Addysg |
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (BEL 5164) |
31,361 |
31,361 |
|
Cyfanswm |
|
|
184,586 |
173,709 |
8. Mae Atodiad A yn rhoi dadansoddiad o ddyraniadau o ddiddordeb penodol i’r Pwyllgor sy’n rhan o ddyraniadau’r llinell wariant yn y gyllideb fel yr amlinellir yn Nhabl 1.1. Yn ychwanegol, mae’n amlinellu’r alldro terfynol ar gyfer 2016-17 a’r rhagolygon alldro ar gyfer 2017-18 ynghyd â dyraniadau dangosol ar gyfer 2018-19 a 2019-20.
9. Yn Atodiad B darperir sylwebaeth ar bob un o’r meysydd penodol sy’n berthnasol i’r Pwyllgor yn cynnwys dadansoddiad ac esboniad o’r newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a’r Gyllideb Atodol Gyntaf (Mehefin 2017).
Rhan 2: Gwybodaeth Arall
Gwerth am Arian
10. Mae eglurder ynglŷn â sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithiol yn ganolog i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn Ffyniant i Bawb a Symud Cymru Ymlaen.
11. Ar ôl i wariant gael ei gynllunio yn unol â’m blaenoriaethau, mae gennyf brosesau sydd wedi’u hen sefydlu ar waith i sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio’n effeithiol at y dibenion y’u bwriadwyd. Mae’r prosesau llywodraethu a monitro sy’n bodoli yn adlewyrchu natur ein cysylltiadau â phartneriaid cyflawni.
Ariannu Cronfa Gwaddol Cerddoriaeth/Prynu Offerynnau Cerdd ac Ensembles Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
12. Rwyf wedi buddsoddi £1 miliwn yn ychwanegol mewn addysg gerddoriaeth yng Nghymru, gyda £500,000 yn cael ei ddarparu i sefydlu gwaddol cerddoriaeth i Gymru (£30,000 yn 2016-17 a £470,000 yn 2017-18), £280,000 ar gyfer Ensembles Celfyddydau Ieuenctid Cymru yn 2016-17 a £220,000 i brynu offerynnau yn 2016-17, gydag ymrwymiad i greu mecanwaith rhannu cenedlaethol ar gyfer offerynnau. Rwyf hefyd yn bwrw ymlaen â chynllun peilot ar gyfer amnest offerynnau cerdd cenedlaethol ym mis Tachwedd yn dilyn peilot llwyddiannus Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod yr haf.
13. Roedd y gwaddol, y mecanwaith rhannu offerynnau (cronfa ddata) a’r amnest offerynnau cerdd i gyd yn argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen a roddwyd ar waith gan fy adran i.
14. Mae’r ensembles cenedlaethol yn darparu llwybr pwysig i bobl ifanc gael mynediad i gyfleoedd perfformio elitaidd a symud ymlaen i yrfa fel cerddorion proffesiynol. Rwyf wedi gwneud cyfraniad o £280,000 i awdurdodau lleol, i’w had-dalu am ariannu’r ensembles yn 2016-17, ar yr amod y byddant yn parhau i ariannu’r ensembles yn 2017-18.
Cynllun Dysgu’n Greadigol drwy’r Celfyddydau
15. Buddsoddwyd £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yng Nghynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau 2015-2020. Bydd 530 o ysgolion yn cymryd rhan yng Nghynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol. Yn ychwanegol, mae dros 8,000 o ddisgyblion wedi elwa o 136 o grantiau Ewch i Weld, a roddwyd i ysgolion i’w cefnogi i ddarparu profiadau diwylliannol.
16. Mae’r rhaglen wrthi’n cael ei gwerthuso ar hyn o bryd. Dengys arwyddion cynnar bod y rhaglen hon yn paratoi ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd lle bydd creadigrwydd yn un o’r 4 diben.
Menter Cerddoriaeth mewn Ysgolion
17. Dyrennir £1 miliwn er mwyn bwrw ymlaen â Mentrau Cerddoriaeth mewn Ysgolion fel rhan o gytundeb diweddar gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb ddrafft a fydd yn helpu i wella gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen ynglŷn â gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru.
Y Gymraeg mewn Addysg
18. Cyhoeddwyd adolygiad o Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ym mis Mawrth 2016. Roedd yn cynnwys gwerthusiad cyffredinol o’r strategaeth, ynghyd â gwerthusiadau unigol o rai o’r rhaglenni, yn cynnwys y Cynllun Sabothol, y rhaglen comisiynu adnoddau a phrosiectau i gefnogi addysgu a dysgu Cymraeg ail iaith. Mae casgliadau ac argymhellion y gwerthusiad hwn yn parhau i gyfrannu at ddatblygu polisi.
19. Fel rhan o gylch gorchwyl adolygiad annibynnol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 ystyriwyd gwerth am arian mewn perthynas ag ariannu’r Coleg. Cyhoeddir ymateb llawn i’r adroddiad a’r argymhellion yn y dyfodol agos.
20. Yn 2017-18, dyrannwyd £200,000 fel rhan o’r BEL Codi Safonau Ysgolion (5511) i gefnogi rhaglen ymchwil a gwerthuso er mwyn llywio datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys gwerthusiad pellach o’r Cynllun Sabothol, gwerthuso’r Siarter Iaith Gymraeg ac ymchwil i lywio arfer gorau o ran addysgu a dysgu Cymraeg.
Buddsoddi er mwyn Atal Problemau
21. Rwy’n cydnabod yr angen parhaus i wneud dewisiadau anodd. Mae’r pwysau parhaus ar gyllid cyhoeddus ac, yn fwy penodol, ar lefel y cyllid sydd ar gael i’r Prif Grŵp Gwariant hwn, yn golygu nad oes amheuaeth ein bod yn wynebu heriau sylweddol. Ers cychwyn ar y gwaith o baratoi’r gyllideb, rwyf wedi canolbwyntio ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion cynyddol meysydd gwasanaeth allweddol o fewn y Prif Grŵp Gwariant yn wyneb cyllideb heriol arall. Dros flynyddoedd olynol, mae gwariant ataliol wedi cael ei flaenoriaethu fel modd o osgoi ymyriadau mwy costus yn y dyfodol, ac i wella ansawdd bywyd yn y tymor hir.
22. Mae’r cynigion hyn ar gyfer y gyllideb, felly, yn adlewyrchu fy ymrwymiad parhaus i amddiffyn a blaenoriaethu buddsoddiad sy’n cefnogi mesurau ataliol cyhyd â bo modd. Yn ogystal ag ystyried sut i ddiwallu’r galw presennol am wasanaethau, mae’r penderfyniadau gwariant hefyd wedi canolbwyntio ar gefnogi ymyriadau sy’n gallu atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Mae’r dull ataliol hwn yn rhan bwysig o’n cynlluniau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, nawr ac yn y dyfodol.
23. Mewn perthynas â gwariant ar gamau ataliol, nod ein targed o gynyddu darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar o 40 grŵp meithrin erbyn 2021 yw creu dinasyddion dwyieithog y dyfodol. Mae Cylchoedd Meithrin yn cyfrannu at feithrin yr amgylchiadau sy’n creu siaradwyr Cymraeg newydd drwy drochi plant yn yr iaith a’i diwylliant, a thrwy helpu i fwydo ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’r gwariant hwn ar y blynyddoedd cynnar yn braenaru’r tir ar gyfer ymyriadau pellach ar ffurf, er enghraifft, Siarter y Gymraeg (sydd â’r nod o sefydlu defnydd o’r Gymraeg ymysg plant ysgol o oedran ifanc), ac mae ganddo’r potensial i leihau gwariant ar hyrwyddo’r iaith ymysg grwpiau oedran hŷn, gan y bydd eu harferion iaith wedi bwrw gwreiddiau eisoes.
24. Mae Cynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau 2015-2020 yn darparu cymorth dysgu ac addysgu drwy weithgaredd yn seiliedig ar greadigrwydd a’r celfyddydau; y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae gwybodaeth am y cynllun wrthi’n cael ei dosbarthu i ysgolion drwy Ysgolion Arloesi, mentora ymarferwyr a Hwb a’r Parth Dysgu Creadigol.
25. Mae elfen Ysgolion Creadigol Arweiniol y Cynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau yn targedu datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr a chefnogi’r rhai mewn cymunedau difreintiedig. Mae athrawon sy’n rhan o’r cynllun yn gweithio’n uniongyrchol ag ymarferwyr creadigol i ddatblygu ymyriadau yn seiliedig ar greadigrwydd, a gyflwynir drwy gyd-destun ystod o bynciau’r cwricwlwm. Rhennir ymarfer a ddatblygir drwy’r cynllun hwn o fewn ysgolion a rhwng ysgolion.
26. O dan y Cynnig Celfyddydau mewn Addysg Cymru Gyfan o fewn y cynllun hwn, gall ysgolion wneud cais am Grantiau Ewch i Weld a Grantiau Cydweithio Creadigol er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol a meithrin cysylltiadau parhaol â sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. Mae’r grantiau hyn yn annog ysgolion i ddarparu profiadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth sy’n ysbrydoli dysgwyr, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.
27. Mae’r ymarfer a ddatblygwyd o dan y cynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau yn cyfrannu at y broses o greu’r cwricwlwm newydd, yn arbennig diben Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol a’r Maes Profiad a Dysgu ar gyfer Celfyddydau Mynegiannol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n rheoli’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, yn cyfrannu at grŵp ysgolion arloesi Celfyddydau Mynegiannol.
28. Mae’n fwy tebygol na fydd dysgwyr â sgiliau llythrennedd a rhifedd lefel is yn llwyddo i gael swydd, ac mae i hyn oblygiadau canlyniadol o ran twf economaidd. Mae Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau yn cefnogi’r bobl ifanc hyn i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar faterion ehangach megis presenoldeb ac ymgysylltiad â dysgu.
Deddfwriaeth
29. Ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth yn y cam gweithredu ar gyfer Addysg.
Goblygiadau Brexit
30. Sefydlwyd tîm penodol gan Lywodraeth Cymru i gydlynu materion Pontio Ewropeaidd, sy’n cydweithio’n agos â’r tîm presennol ym Mrwsel ac adrannau polisi.
31. Gan fod effaith Brexit mor bellgyrhaeddol, mae nifer o adrannau Llywodraeth Cymru hefyd yn blaenoriaethu eu hadnoddau presennol i ymdrin â materion sy’n ymwneud yn benodol â Brexit. Mae ail-flaenoriaethu adnoddau presennol yn ddull gweithredu pwysig a chyfrifol ac un y bydd angen ei ddefnyddio ymhellach wrth i ragor o wybodaeth am newidiadau yn y dyfodol ddod i law.
32. Nid yw’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith uniongyrchol ar y rhaglenni craidd sy’n rhan o’r MEG Addysg. Byddwn yn sicrhau bod effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei monitro’n ofalus a byddwn yn cynnal trafodaethau i gyfyngu ar yr effaith.
Rhan 3: Meysydd Penodol
Cymraeg mewn Addysg/Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
Dyraniadau a sylwebaeth mewn perthynas â chefnogi llythrennedd a rhifedd (gan gynnwys llythrennedd Cymraeg), a TGAU Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg
33. Mae’r Grant Gwella Addysg yn cefnogi holl anghenion Llythrennedd a Rhifedd yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ym mhob lleoliad ysgol, yn cynnwys cymorth penodol yn ymwneud â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol sy’n cynnwys elfen o lythrennedd Gymraeg.
34. Yn ychwanegol at hynny, ariennir consortia trwy’r Grant Gwella Addysg i ddarparu cefnogaeth ar gyfer yr arholiadau TGAU newydd, yn cynnwys TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith. Defnyddir y Grant Gwella Addysg i wella’r ddarpariaeth statudol felly nid oes gwybodaeth am wariant penodol ar y Gymraeg ar gael. Ar lefel ysgol, mae’r Grant Gwella Addysg yn cefnogi gwell canlyniadau i ddysgwyr a gellir ei ddefnyddio ar gyfer y Gymraeg, y Celfyddydau a Cherddoriaeth.
Dyraniadau a sylwebaeth mewn perthynas â Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
35. Ar gyfer 2018-19, dyrannwyd cyllideb o £31.361 miliwn o’r BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164) er mwyn rhoi’r camau gweithredu mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yn y strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr ar waith.
36. Mae’r cyllid yn cefnogi datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg o’r Blynyddoedd Cynnar, drwy Mudiad Meithrin, i addysg uwch, drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyraniadau a Sylwebaeth mewn perthynas â Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
37. Mae Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn darparu sylfaen ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Yn allweddol, mae hefyd yn cynnwys addysg ddwyieithog ac iaith Gymraeg. Cyflwynodd pob un o’r 22 awdurdod lleol Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i’w cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, yn dilyn datganiad gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Mawrth 2017, gofynnwyd i Aled Roberts gynnal adolygiad brys o’r drefn bresennol o ran cynllunio addysg Gymraeg ledled Cymru. Dyrannwyd cyllideb o £50,000 o’r BEL Strategaeth Addysg Gymraeg (5164) yn 2017-18 i gynnal yr adolygiad hwn. Mae’r adroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion ar sut i ddatblygu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn ogystal â chynnig argymhellion ar gynlluniau unigol a ddrafftiwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod 2017-2020.
38. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid o nifer o ffynonellau i roi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar waith yn cynnwys gweithgareddau a gefnogir ac a gyflawnir drwy’r Grant Gwella Addysg (BEL 5126). Wrth ddarparu’r Grant Gwella Addysg, gofynnir i gonsortia rhanbarthol sicrhau bod y rhaglen gweithgareddau a ariennir yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol.
39. Mae’r BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164) hefyd yn cefnogi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg drwy raglenni i gefnogi hyrwyddo’r defnydd anffurfiol o’r Gymraeg a datblygu sgiliau iaith ymarferwyr drwy’r Cynllun Sabothol. Mae’r gweithgaredd hyrwyddo a marchnata drwy raglen Cymraeg i Blant, er yn anodd ei fesur, hefyd yn cefnogi’r gwaith o weithredu’r cynlluniau.
Dyraniadau a sylwebaeth mewn perthynas â Strategaeth y Gymraeg mewn perthynas â’r gweithlu dysgu
40. Fel rhan o’r BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164), dyrennir £1.550 miliwn bob blwydyn i gyllido’r cynllun sabothol cenedlaethol, sy’n darparu hyfforddiant iaith Gymraeg dwys i ymarferwyr.
41. Yn ychwanegol at hynny, fel rhan o’r BEL Codi Safonau Ysgolion (5511), mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4.205 miliwn yn ychwanegol yn 2017-18 i gefnogi addysgu a dysgu’r Gymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
42. Bydd cynnydd o £680,000 yn y cyllid hwn yn 2018-19 a chynnydd pellach o £265,000 yn 2019-20, yn amodol ar gyllideb derfynol a chymeradwyaeth ohoni, er mwyn paratoi’r gweithlu i gyflawni cwricwlwm newydd y Gymraeg ac i gynyddu capasiti’r gweithlu addysgu cyfrwng Cymraeg.
Addysg Gerddoriaeth/Cerddoriaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
Cronfa’r Gwaddol ar gyfer Cerddoriaeth
43. Ym mis Chwefror 2017, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddarparu £500,000 er mwyn sefydlu (£250,000) a chyfalafu (£250,000) Cronfa Cerddoriaeth Cymru; defnyddiwyd £30,000 ohono yn y flwyddyn ariannol 2016-17. Caiff y gweddill (£470,000) ei dalu yn y flwyddyn ariannol 2017-18. Bydd y gwaddol, fel elusen gofrestredig, yn mynd ati wedyn i godi arian ychwanegol drwy weithgareddau megis ymgysylltiad corfforaethol a rhoddion gan unigolion.
44. Mae’r £500,000 yn rhan o’r £100,000 a neilltuwyd i godi safonau ysgolion a ddyrennir o’r BEL Codi Safonau Ysgolion (5511).
45. Bydd y gwaddol yn casglu rhoddion gan sefydliadau a busnesau a rhoddion unigol o Gymru a thu hwnt. Rhagwelir y bydd y gronfa yn cynhyrchu digon o log i ddechrau dyfarnu grantiau i bobl ifanc, ar ôl iddi gyrraedd £10 miliwn.
Ariannu Prynu Offerynnau Cerdd ac Ensembles Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
46. Yn y flwyddyn ariannol 2016-17, neilltuwyd £220,000 a £280,000 i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu Awdurdodau Lleol i brynu offerynnau cerdd a’u had-dalu am ariannu Ensembles Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
47. Bydd yr £1 miliwn y cytunwyd arno ar gyfer Mentrau Cerddoriaeth mewn Ysgolion fel rhan o’r cytundeb cyllideb ddrafft diweddar â Phlaid Cymru yn helpu i wella gwasanaethau cerddoriaeth ysgolion ledled Cymru, ac yn adeiladu ar argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru.
Addysg Gelfyddydol/Y Celfyddydau yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
Cynllun Dysgu’n Greadigol drwy’r Celfyddydau
48. Rhaglen 5 mlynedd yw’r Cynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau i roi argymhellion adolygiad yr Athro Dai Smith o’r Celfyddydau mewn Addysg (2013) ar waith ac i ddatblygu dysgu’n greadigol ac arferion dysgu sy’n cyfrannu at ddatblygu’r 4 diben a’r Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn y cwricwlwm newydd.
49. Mae’r cynllun wedi cael gwerth £2 filiwn o gyllid y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ers y flwyddyn ariannol 2015-16 a bydd yn parhau i gael y swm hwn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2019-20. Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyfrannu swm blynyddol cyfatebol; sy’n golygu y bydd y cynllun yn cael cyfanswm o £20 miliwn, wedi’i rannu’n gyfartal rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau, dros gyfnod 5 mlynedd y gweithgaredd.
Atodiad A
Dyraniadau Penodol o fewn y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL)
BEL |
Dyraniadau Penodol |
Alldro Terfynol 2016-17 £000oedd |
Rhagolygon Alldro 2017-18 £000oedd |
Dyraniad
Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
Cyllideb Ddrafft Ddangosol
2019-20 |
Grant Gwella Ysgolion (BEL 5126) |
Grant Gwella Addysg* |
137,427 |
133,282 |
118,137 |
107,044 |
Cwricwlwm ac Asesu (BEL 5162) |
Dysgu’n Greadigol drwy’r Celfyddydau |
2,000 |
2,000 |
2,000 |
2,000 |
Ariannu Mentrau Cerddoriaeth mewn Ysgolion – cytundeb gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb ddrafft |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
|
Ensembles Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru |
280 |
0 |
0 |
0 |
|
Prynu Offerynnau |
220 |
0 |
0 |
0 |
|
Codi Safonau Ysgolion (BEL 5511) |
Y Gymraeg |
180 |
4,205 |
4,885 |
5,150 |
Gwaddol Cerddoriaeth |
30 |
470 |
0 |
0 |
|
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (BEL 5164) |
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg |
17,760 |
29,831 |
31,361 |
31,361 |
Cyfanswm |
|
157,897 |
169,788 |
157,383 |
146,555 |
*Cyfanswm dyraniad y Grant Gwella Addysg sy’n cynnwys cefnogaeth ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd (sydd ag elfen iaith Gymraeg) a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith. Mae cyfanswm dyraniad BEL (5126) yn cynnwys y gyllideb sy’n ymwneud â maint dosbarthiadau babanod.
Atodiad B
Sylwebaeth ar bob Llinell Wariant yn y Gyllideb o fewn Prif Grŵp Gwariant Addysg sy’n berthnasol i’r Gymraeg, y Celfyddydau ac Addysg Gerddoriaeth, yn cynnwys dadansoddiad ac esboniad o’r newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2018-19 a’r Gyllideb Atodol Gyntaf (mis Mehefin 2017)
Grant Gwella Ysgolion (BEL 5126)
Dyraniadau Penodol |
Cyllideb Atodol 2017-18 (Mehefin 2017) £000oedd |
Newidiadau £000oedd |
Dyraniad Cyllideb Ddrafft
2018-19 |
Grant Gwella Addysg* |
133,282 |
-15,145 |
118,137 |
*Cyfanswm dyraniad y Grant Gwella Addysg sy’n cynnwys cefnogaeth ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd (sydd â chydran iaith Gymraeg) a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith.
Mae’r Grant Gwella Addysg i Ysgolion o fewn y llinell wariant Grant Gwella Ysgolion. Dyma’r prif grant gwella i ysgolion sydd â’r nod o gefnogi gwell canlyniadau addysgol i bob dysgwyr ar draws pob cyfnod allweddol. Mae’r rhan fwyaf o’r Grant Gwella Addysg yn cael ei ddirprwyo i ysgolion a’i dargedu drwy gonsortia rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl.
Mae’r Grant Gwella Addysg yn cefnogi’r holl anghenion Llythrennedd a Rhifedd yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ym mhob lleoliad ysgol, gan gynnwys cymorth penodol gyda’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol sydd ag elfen o lythrennedd Gymraeg. Yn ychwanegol, ariennir consortia drwy’r Grant Gwella Addysg i ddarparu cymorth ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd, yn cynnwys TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Chymraeg Ail Iaith. Mae hefyd yn cefnogi’r Gymraeg drwy Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Awdurdodau Lleol.
Defnyddir y Grant Gwella Addysg i wella’r ddarpariaeth statudol felly nid oes gwybodaeth ar gael am wariant penodol ar y Gymraeg. Ar lefel ysgolion, mae’r Grant Gwella Addysg yn cefnogi gwell canlyniadau i ddysgwyr a gellir ei ddefnyddio ar gyfer y Gymraeg, y Celfyddydau a Cherddoriaeth.
Gostyngiad:
·
Gostyngiad o
£15.145 miliwn fel rhan o’r penderfyniad i symud o
gyllid grant wedi’i neilltuo i gyllid grant heb ei neilltuo a
mwy o hyblygrwydd i lywodraeth leol gyflawni ein blaenoriaethau a
rennir i ysgolion. Er gwaethaf y gostyngiad ac ailflaenoriaethu cyllid
i’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer ein blaenoriaethau i
ysgolion, mae’r Grant Gwella Addysg yn parhau i ddarparu
buddsoddiad sylweddol o fwy na £118 miliwn yn 2018-19 i
gynorthwyo ein hysgolion, gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol
ac Awdurdodau Lleol i wella deilliannau addysgol i bob dysgwr yng
Nghymru.
BEL Cwricwlwm ac Asesu (5162)
Dyraniadau Penodol |
Cyllideb Atodol 2017-18 (Mehefin 2017) £000oedd |
Newidiadau £000oedd |
Dyraniad
Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
Dysgu’n Greadigol drwy’r Celfyddydau |
2,000 |
0 |
2,000 |
Ariannu Mentrau Cerddoriaeth mewn Ysgolion – Cytundeb â Phlaid Cymru |
0 |
1,000 |
1,000 |
Mae’r BEL Cwricwlwm (5162) yn cefnogi nifer o weithgareddau. O gyfanswm y dyraniad o £8.5 miliwn yn 2017-18:
· dyrannwyd £2 filiwn i’r Cynllun Dysgu’n Greadigol Drwy’r Celfyddydau. Rhaglen 5 mlynedd yw hon a bydd yn parhau i gael ei chyllido ar y lefel hon hyd 2019-20.
Cynnydd:
· Dyraniad o £1 filiwn o gronfeydd wrth gefn i ariannu Mentrau Cerddoriaeth mewn Ysgolion fel rhan o’r cytundeb cyllideb ddrafft diweddar â Phlaid Cymru.
BEL Codi Safonau Ysgolion (5511)
Dyraniad Penodol |
Cyllideb Atodol 2017-18 (Mehefin 2017) £000oedd |
Newidiadau £000oedd |
Dyraniad
Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
Y Gymraeg |
4,205 |
680 |
4,885 |
Gwaddol Cerddoriaeth |
470 |
-470 |
0 |
Mae’r BEL Codi Safonau Ysgolion (5511) yn cefnogi nifer o weithgareddau. O gyfanswm y dyraniad o £20 miliwn yn 2017-18:
· dyrannwyd £470,000 i sefydlu gwaddol cerddoriaeth i Gymru.
· dyrannwyd £4.205 miliwn ar gyfer:
- ehangu’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol;
- rhaglenni peilot i gefnogi sgiliau Cymraeg dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg;
- ymgyrch recriwtio i ddenu graddedigion cyfrwng Cymraeg i ddysgu;
- cefnogi dysgu proffesiynol i ymarferwyr y Gymraeg a chyfrwng Cymraeg trwy’r consortia rhanbarthol; ac
- ymchwil i lywio datblygiad y continwwm Cymraeg newydd.
Gostyngiad:
· Ni wnaed unrhyw ddyraniad fel rhan o gynlluniau Cyllideb Ddrafft 2018-19 ar gyfer Gwaddol Cerddoriaeth. Roedd hwn yn ddyraniad untro i ariannu sefydlu Cronfa Gerddoriaeth i Gymru.
Cynnydd:
· Mae’r dyraniad dangosol mewn perthynas â’r Gymraeg yn 2018-19 yn cynnig cynnydd o £680,000 yn y gyllideb. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol i ehangu’r Cynllun Sabothol, cefnogaeth i ddysgu proffesiynol i ymarferwyr y Gymraeg a chyfrwng Cymraeg trwy’r consortia rhanbarthol ac ehangu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg.
BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164)
Dyraniadau Penodol |
Cyllideb Atodol 2017-18 (Mehefin 2017) £000oedd |
Newidiadau £000oedd |
Dyraniad
Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg |
29,231 |
2,130 |
31,361 |
Mae’r BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164) yn cefnogi’r camau gweithredu mewn perthynas ag addysg cyfrwng ac iaith Gymraeg yn strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, sy’n cynnwys:
· cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg i gynnwys rhoi’r argymhellion a wnaed yn Adolygiad Brys Aled Roberts o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar waith;
· darparu hyfforddiant i ymarferwyr drwy’r Cynllun Sabothol;
· darparu hyfforddiant iaith Gymraeg trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
· comisiynu adnoddau addysgu a dysgu;
· hybu trosglwyddo iaith o fewn teuluoedd;
· ymchwil, gwerthuso a marchnata mewn perthynas â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg;
· cyflawni rhaglen y Siarter Iaith Gymraeg; ac
· ariannu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r dyraniad dangosol i’r BEL Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (5164) yn 2018-19 a 2019-20 yn cynnig cynnydd o £2.130 miliwn yn y gyllideb.
Gostyngiad:
· Fel rhan o’r adolygiad i ddygymod â chyllidebau llai, clustnodwyd gostyngiad o £300,000 drwy leihau’r cyllid ar gyfer sawl prosiect ar draws BEL y Strategaeth Addysg Gymraeg a BEL y Gymraeg, drwy arbedion o ganlyniad i gyfuniad o brosiectau’n dod i ben ac ailflaenoriaethu cyllid.
Cynnydd:
· Trosglwyddo £330,000 o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru mewn perthynas â Chynllun Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg;
· Dyraniad o £1.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn sy’n cynnwys £500,000 ychwanegol ar gyfer gwell darpariaeth o adnoddau addysg dwyieithog ac £1 filiwn ar gyfer ehangu Mudiad Meithrin fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid o £5 miliwn ar gyfer yr iaith Gymraeg a gaiff ei gynnwys yn rheolaidd yn y waelodlin; a
· Trosglwyddo £600,000 mewn perthynas â Mudiad Meithrin (£300,000 o’r MEG Cymunedau a Phlant a £300,000 o’r BEL Cyfnod Sylfaen (5501)). Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cefnogi hyfforddi a datblygu staff ar gyfer y blynyddoedd cynnar.